Cludiant o 50c
Cludiant am ddim i'r DU wrth wario dros £25
Cludiant o 50c

Amdanom ni

Y Stori

Ar ôl graddio o’r Brifysgol, penderfynais nad oeddwn i eisiau gweithio fel dylunydd ‘traddodiadol’ yn gweithio mewn stiwdio dylunio graffeg. Gan fy mod yn siaradwr Cymraeg, ac yn hoff o gardiau a phrintiau, sylweddolais fod yna diffyg enfawr o gardiau Cymraeg ar gael. Felly penderfynais greu rhai fy hun, wrth sicrhau eu bod nhw ar gael i unrhyw un â diddordeb — ac felly ganwyd Cardiau Cymraeg. Roedd yna lwyth i’w wneud. Dechreuais i ddylunio cardiau, cynllunio sut byddai’r gwefan yn edrych ac yn gweithio, ffyrdd i bacio’r cardiau trwy sicrhau bod popeth mor ecogyfeillgar â phosib, a phob peth arall sydd rhaid ystyried wrth sefydlu siop fach.

Pan ddechreuais i wnes i ddim ystyried y posibilrwydd o werthu fy nghardiau mewn siopau ledled Cymru, a bendant wnes i byth ddychmygu gwneud ymddangosiad ar deledu (y peth mwyaf dychrynllyd rydw i erioed wedi’i wneud!) yn trafod y project bach yma.

Pecynnu 

Mae pob un o’n cardiau a phrintiau wedi cael eu harlunio â llaw, dylunio yn ofalus, a’i chreu â chariad. Siop fach ydyn ni, gyda chariad mawr am ein hamgylchedd, felly nid ydym yn defnyddio unrhyw fath o becynnau plastig, a gall pob un o’n cardiau ac amlenni cael ei ailgylchu. Yn lle defnyddio pecynnau plastig, rydym yn lapio ein cardiau mewn bandiau papur crefft er mwyn rhoi’r edrychiad gorffenedig, a gall y bandiau yma wrth gwrs hefyd cael eu hailgylchu.

Yn yr un modd, anfonir printiau wedi’u lapio’n ofalus mewn papur brown â sticer fioddiraddadwy, a’u rholio yn ofalus cyn mynd mewn i diwb cardfwrdd. Mae yna gaeadau plastig ar y tiwbiau ond maent yn ailgylchadwy, ac mae’r tiwbiau eu hunain, yn ogystal â’r tâp papur a ddefnyddir i’w selio, yn ailgylchadwy ac yn fioddiraddadwy. Pan werthwyd printiau Cardiau Cymraeg mewn siopau neu yn ffeiriau, maent yn cael eu rhoi mewn bagiau clir (yn debyg i fagiau cello) wedi’u chreu o startsh tatws, sy’n golygu eu bod yn fioddiraddadwy hefyd.

Yn bellach, mewn ymgais i fod mor ecogyfeillgar ag sy’n bosib, pan fydd cerdyn neu brint yn cael ei difrodi maent yn cael eu gwerthu â phris gostyngedig. Gallwch ddarganfod y cardiau a printiau yma yn y categori ‘Cynhyrchion Amherffaith’ ar y gwefan.

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi archebu …

Unwaith mae eich archeb wedi’u gorffen, mae’r dathlu a ‘dawnsio hapus’ yn dechrau. Yna, dwi’n camu mewn i stiwdio Cardiau Cymraeg — gan ddefnyddio’r term stiwdio yn llac — ac yn dechrau paratoi eich archeb yn ofalus. Fel rheol postiwyd archebion cyn i’r dyn post gwagai’r blwch post y diwrnod gweithio nesaf (os ddim yn gynt).

Mwy o wybodaeth

Gwerthwyd pob cerdyn am £2.50, gyda chludiant i’r DU yn dechrau o 50c. Mae yna gynnig o gludiant am ddim i archebion cardiau dros £25 ac i archebion o brintiau. Os hoffech ddarllen mwy am ein prisiau dosbarthu a’n gwybodaeth, cliciwch yma.

Cadwch eich llygaid allan am godau cwpon ar ein tudalennau InstagramTwitter a FaceBook, gan ein bod pob hyn a hyn yn cynnig y cyfle i brynu unrhyw dair carden am £5 (prynwch dau, gewch chi un arall am ddim).

Mwynhewch bori trwy ein dewis o gardiau a phrintiau Cymraeg, a dewch ‘nôl cyn hir!